top of page
Writer's pictureLEB Construction

LEB Yn darparu siop un stop ar gyfer Gwelliannau ac Addasiadau Preswyl


Bathroom Modifications

Yn LEB, rydym wrth ein bodd yn gweithio ar brosiectau mawr fel ysgolion ac adeiladau treftadaeth. Ond rydym hefyd yn gwmni adeiladu lleol ar gyfer y trigolion sy'n byw ac yn gweithio yng nghanolbarth Cymru, sy'n golygu ein bod ar gael ar gyfer y gwaith llai hefyd. Yn gynyddol, rydym yn brysur yn addasu pob math o dai a fflatiau yn gartrefi.

Un o'r gwasanaethau arbenigol a gynigiwn yw addasiadau i eiddo sy’n galluogi preswylwyr oedrannus neu'r rhai sydd â phroblemau symudedd i aros yn eu cartrefi. Yn aml, bydd y gwaith yma’n cael ei wneud ar gyfer awdurdodau lleol, yn ogystal â darparwyr tai cymdeithasol a pherchnogion tai preifat. Mae'r gwaith hwn fel arfer yn golygu uwchraddio'r ystafell ymolchi er mwyn caniatáu i'r meddiannydd gynnal ei h/annibyniaeth.


Gall ein tîm fynd i mewn, tynnu'r ystafell ymolchi bresennol allan a gosod cyfleuster arddull ystafell wlyb yn ei le, gan gynnwys cawod newydd a canllawiau cydio, offer ymolchfa newydd, addasiadau i'r plymio ac ail-deilsio.


Gan ein bod yn cyflogi ein crefftwyr medrus ein hunain, gallwn gydlynu'r holl waith yn gyflym ac yn effeithlon, gan gwblhau'r gwaith heb unrhyw angen i'r preswylydd adael yr eiddo. Gall gwaith fel hyn newid bywyd i'r preswylydd, sydd yn rhoi boddhad mawr i ni.


Rydym hefyd yn brysur yn helpu pobl i adnewyddu ac uwchraddio eu heiddo. Yn dilyn y pandemig, mae llawer o bobl, o'r diwedd yn mynd ati i ddiweddaru eu cartrefi, neu wedi gwireddu eu breuddwyd o symud i'r ardal. Rydym ar gael ar gyfer yr holl brosiectau ailwampio a diweddaru hir ddisgwyliedig hynny. Unwaith eto, y fantais o ddelio â ni yw y gallwn ddarparu siop un stop gyda'n tîm mewnol. Rydym yn rheoli'r gwaith o'r dechrau i'r diwedd, yn cydlynu'r holl grefftwyr ac yn delio ag unrhyw faterion sy'n codi, gan ysgwyddo’r baich ar ran ein cleientiaid.

Dywedodd Luke Baker, rheolwr gyfarwyddwr LEB: "Rydym yn rhan o'r gymuned yma yng nghanolbarth Cymru ac mae'n bleser o’r mwyaf helpu pobl i droi eu heiddo yn gartref bu’n freuddwyd ganddynt ei wireddu erioed.

"P'un ai gwneud cartref yn fwy trigiadwy neu i'w ddiweddaru a'i adnewyddu yw’r gwaith, gallwn deilwra'r prosiect i ddiwallu anghenion y cleient."

bottom of page