top of page

LEB yn Cwblhau 3ydd Cam Prosiect Ystafell Reoli Ynni Dŵr Rheidol

Writer's picture: LEB ConstructionLEB Construction

Mae LEB Construction wedi cwblhau cam tri o prosiect pedwar cam ar gyfer Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, yng ngwaith ynni dŵr Rheidol ger Aberystwyth.


Yr ystafell reoli yng ngwaith ynni dŵr Rheidol yw'r pencadlys ar gyfer rheoli holl asedau Statkraft yn y DU ac mae'r prosiect yn cynnwys uwchraddio'r cyfleusterau i sicrhau gwydnwch a gweithrediad parhaus.


Gwnaeth tîm LEB waith adnewyddu i’r adeilad ystafell reoli a’r is-orsaf bresennol yng ngham 1, gan gynnwys ailfodelu'r llety ac ailaddurno. Yng ngham 2, adeiladwyd ystafell reoli wrth gefn newydd gennym, gan gynnwys yr M&E cymhleth a'r gosodiad data sydd eu hangen, ynghyd â maes parcio newydd. Yng ngham 3, rydym wedi diweddaru'r hen ystafell reoli wrth gefn mewn rhaglen chwe wythnos effeithlon a oedd yn cynnwys ailfodelu'r gofod mewnol, ail wifro’r eiddo, gosod cegin newydd, adnewyddu'r cyfleusterau toiled a gosod system larwm tân newydd.

Bydd y prosiect yn galluogi Statkraft i sicrhau parhad busnes ar gyfer ei asedau ledled y DU, tra'n darparu gweithle cyfforddus a chyfoes ar gyfer eu timau ystafell reoli. Disgwylir i dîm LEB ddechrau ar y pedwerydd, a cham olaf y prosiect, ym mis Hydref.

Dywedodd Luke Baker, rheolwr gyfarwyddwr LEB: "Rydym yn falch iawn o fod wedi cwblhau cam arall o'r gwaith uwchraddio ystafell reoli hwn ar gyfer Statkraft.

"Fel cwmni sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd ein hunain, mae'n wych gweithio i gleient sy'n darparu mynediad i ynni adnewyddadwy ac yn helpu cynifer o fusnesau a phobl ledled Ewrop i wneud eu rhan i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Rydym yn edrych ymlaen at gwblhau'r prosiect yn ddiweddarach eleni."

bottom of page