top of page

Digido Adeiladu

Writer's picture: LEB ConstructionLEB Construction

Harnesu Pŵer Technoleg

Mae'r diwydiant adeiladu yn mynd drwy gyfnod o newid deinamig, ac yn mabwysiadu a chroesawu technoleg er mwyn gwella y gwaith. O Ddulliau Adeiladu Modern (MMC) a Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM) i arolygon safle yn defnyddio dronau neu gyfuniad o Realiti Estynedig a roboteg ar gyfer gwaith peryglus, bydd y ffordd y byddwn yn cyflwyno prosiectau yn y dyfodol yn edrych yn dra gwahanol.


Mae'r pwysau i gyflawni'n gyflym ac am gost isel, heb beryglu ansawdd, wedi gweld y diwydiant yn troi at atebion digidol am gymorth. Mae LEB Construction wedi buddsoddi'n sylweddol mewn technoleg a fydd yn dod â manteision lluosog i'n cleientiaid a'n partneriaid. Mae platfform digidol Procore yn ein galluogi i reoli ein holl brosiectau drwy'r Cwmwl, o dendro a chyn-adeiladu, hyd at gyllidebau prosiect ac anfonebu terfynol.

I'n cleientiaid, mae hyn yn golygu diweddariadau amser real a gwelededd cyflawn. Drwy ffôn symudol, llechen neu liniadur gall ein tîm gael mynediad at, diweddaru a rhannu'r holl ddogfennau sy'n ymwneud ag unrhyw waith, o gynlluniau a chyllidebau i ohebiaeth a ffotograffau safle. Mae hyn yn golygu y gallwn ddarparu diweddariad ar unwaith o unrhyw le, gan sicrhau cyfathrebu effeithlon a thryloywder ac atebolrwydd llwyr.


Wrth i gynlluniau gael eu haddasu a'u diwygio, mae'r meddalwedd yn fodd hygyrch i adolygu'r dyluniad diweddaraf, gwirio'r gyllideb neu olrhain danfoniadau deunydd arfaethedig i'r safle. Gall cleientiaid awdurdodi a llofnodi dogfennau a newidiadau mewn amser real ac mae'r feddalwedd yn ein helpu i reoli dogfennau'n effeithiol, gan ddarparu cofnod digidol o'r holl ohebiaeth yn ystod cylch oes prosiect, sy'n ddefnyddiol petai anghydfod – sydd yn anhebygol.


Gwella Cydweithio ac Effeithlonrwydd

Mae’n anodd weithiau sicrhau cydbwysedd rhwng rhedeg safle prysur, rheoli timau a chrefftwyr, monitro costau, rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cleient a chyfleu newidiadau i gynlluniau neu ddyluniad. Gall fod yn dalcen caled cadw pawb yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd.

Mae ein system Procore yn darparu canolbwynt digidol i symleiddio'r broses hon ac yn lleihau cam gyfathrebu a gwallau mynediad â llaw wrth iddo symleiddio cyfathrebu. Diolch i'n buddsoddiad, gallwn weithredu cydweithio arfer gorau ar draws timau a phrosiectau drwy gysylltu cleientiaid, contractwyr a chrefftau arbenigol ar draws yr un platfform.

Os daw ymholiad i reolwr safle gan is-gontractwr, cadwyn gyflenwi neu gleient, gellir ymdrin ag e yn y man a’r lle, yn hytrach na gorfod mynd yn ôl i swyddfa'r safle i ddod o hyd i'r wybodaeth a'i rhannu. Mae hyn yn ein galluogi i fod yn fwy cynhyrchiol ac effeithlon, gan ymateb yn gyflym i geisiadau am wybodaeth.


Mae technoleg yn caniatáu mwy o reolaeth ar brosiectau gan y gallwn ddefnyddio'r data a grëwyd i lywio ein penderfyniadau. Enghraifft dda yw iechyd a diogelwch, gallwn fonitro data ar wahanol fanylion diogelwch y safle ac o bosibl rhagweld problemau drwy gydnabod patrymau. Os bydd tuedd yn ymddangos, gallwn fynd i'r afael ag ef yn gyflym a rhoi gwybodaeth cyflym am y broblem posibl i'r tîm.


Adeiladu ar gyfer Twf

Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn adlewyrchiad o'n hyder yn y farchnad a'n busnes. Rydym wedi ehangu ein tîm ac yn gosod sylfeini ar gyfer twf pellach. Mae technoleg yn rhan fawr o'r broses hon. Mae’r sector adeiladu, fel y rhan fwyaf o sectorau, wedi profi heriau yn ystod y pandemig ond mae’r sector wedi dangos yn gyson ei fod yn wydn ac yn ddeinamig.


Mae ein buddsoddiad yn golygu y gall cleientiaid elwa o'r math o dechnoleg a neilltuwyd fel arfer ar gyfer contractwyr haen uchaf, ond sydd yn cadw'r gwasanaeth lleol a’r gallu i dalu sylw i fanylion sydd ar gael gan chontractwr lleol.

Fel cwmni, rydym yn ymfalchïo mewn mynd yr ail filltir i gwblhau y gwaith, heb gyfaddawdu ar ansawdd. Mae'r dechnoleg hon yn caniatáu inni fynd â'r mantra[RJ1] /gred hwnnw gam ymhellach.

[RJ1]Gwirio hwn – methu cael hyd I air Cymraeg gyda’r gwir ystyr

bottom of page